Cajuns Denbo - "Dwy Daith"

1 - Bosco Stomp (2.53)
Tradd. trefn./Trad. arr. Sheryl Cormier © Flat Town Music BMI Geiriau Cymraeg/Welsh Lyrics: Owen Hughes

Perfformwyd y gân yma ganddom am y tro cyntaf pan oeddym yn cefnogi Sheryl Cormier, Brenhines yr Acordion Cajun o Carencro, Louisiana pan yr oedd hi ar daith yma yn 2000. Yr oeddym yn hoffi y gân gymaint fe benderfynwyd ei chadw fel rhan o'n set byw. Yn lwcus i ni cafwyd sel o gymeradwyaeth gan Sheryl.

We first played this song as backing band for Sheryl Cormier, the Queen of Cajun Accordion from Carencro, Louisiana when she was on tour in 2000. We liked it so much that we kept it for our own live set. Luckily for us, Sheryl has given it her seal of approval.


2 - Oll Dwi'n Weld yw Poen [All I See Is Pain] (3.39)
Chris Ardoin © Doucet Music Publishing Geiriau Cymraeg/Welsh Lyrics: Owen Hughes

Tra'n chwarae yn yr Wyl Cajun a Zydeco yn Raamsdonksveer yn yr Iseldiroedd yn 2003, clywsom y gân yma yn cael ei perfformio gan Chris Ardoin, cerddor Zydeco o Louisiana. Cawsom y fraint o gael Harold Guillory, cymeriad egniol sydd yn chwarae'r froittoir (bwrdd sgwrio metal) ym mand Chris Ardoin, i ddod i'r stiwdio a chwarae ar ein fersiwn ni o'r gân pan oeddar daith yn Ewrop yn 2004. Cyflwynwn y gân yma er cof am Hans den Boer a wnaeth cymaint i ddod â cerddorion Cajun a Zydeco o bob cwr o'r byd at ei gilydd.
Harold Guillory: Froittoir

While appearing at the Cajun & Zydeco Festival in Raamsdonksveer, Holland in 2003 we heard this song by Louisiana Zydeco musician, Chris Ardoin. The irrepressible Harold Guillory, who plays froittoir in Chris Ardoin's band, came to the studio to play on our version when he was touring the UK in 2004. We dedicate this song to the late Hans den Boer who helped bring together Cajun and Zydeco musicians from all over the world.
Harold Guillory: Froittoir


3 - Dy Gwmni Di (2.36)
Geiriau/lyrics: Dennis Carr/Mary Lynn Carr Cerddoriaeth/music: John Wilce/Pete Walton © Madryn Cyf.

Creuwyd hon pan ddechreuodd John chwarae riff ar y bâs ac adeiladwyd y gân syml ddiffuant yma o gwmpas hynny. Mae'r rhythmau yn dangos dylanwad Zydeco wedi ei briodi gyda elfennau canu gwlad gan Sam ar y dobro.

This developed from a jam around John's bass riff into a song with a simple but heartfelt expression of longing. The driving Zydeco-flavoured rhythms are given a country edge by Sam's earthy dobro picking.


4 - Dwy Daith [Deux Voyages] (2.54)
Dirk Powell/Christine Balfa © Swinging Door Music BMI Geiriau Cymraeg/Welsh Lyrics: Frances Smith

Cyd ysgrifenwyd y gân yma gan y cerddor Cajun Dirk Powell o'r band Balfa Toujours tra yn teithio yng Nghymru. Mae'r ddwy fordaith yn cyfeirio at ei gyndadau pan oeddynt yn allfudo o Gymru i'r Unol Daliaethau, a'i siwrne ei hun yn ôl i "Hen Wlad ei Dadau". Mae Jock Tyldesley yn arddangos yma pam mae o yn cael ei ystyried fel un o'r ffidlwyr Cajun gorau yn Ewrop.
Jock Tyldesley: ffidil

Co-written during a visit to Wales by Cajun musician Dirk Powell of Balfa Toujours. The two voyages refer to his ancestors' emigration from Wales to America, and his own journey back to the land of his fathers. Jock Tyldesley on fiddle demonstrating why he is regarded as one of Europe's finest Cajun fiddlers.
Jock Tyldesley: fiddle


5 - Dagrau yn Disgyn [All The Rain] (2.52)
Chip Taylor/Carrie Rodriguez © Back Road Music Inc./Indian Trail Music Geiriau Cymraeg/Welsh Lyrics: Owen Hughes

Cân wych gan y canwr ac ysgrifenwr caneuon Chip Taylor (fe a ysgrifennodd "Wild Thing" ac "Angel of the Morning" ymysg cannoedd eraill) a Carrie Rodriguez o'r CD "The Trouble with Humans". Cytunnodd y ddau gyda grâs a brwdfrydedd i gyfranu i'n fersiwn ni o'r gân. Chwaraeodd Carrie ei ffidil unigryw ac fe ganodd y ddau yn Gymraeg.
Carrie Rodriguez: ffidil a llais cefndir
Chip Taylor: llais cefndir

A great song by the legendary U.S. singer/songwriter Chip Taylor (writer of "Wild Thing" and "Angel of the Morning" amongst many others) and Carrie Rodriguez from their album "The Trouble with Humans". They kindly and enthusiastically agreed to help us out on our version. Carrie played her trademark Texas fiddle and both sang backing vocals in Welsh!
Carrie Rodriguez: fiddle & backing vocals
Chip Taylor: backing vocals


6 - Rhaid Byw Bywyd (3.29)
Geiriau/lyrics: Dennis Carr/Mary Lynn Carr Cerddoriaeth/music: Neil Browning © Madryn Cyf.

Beth bynnag a gaeth ei daflu atoch ar daith bywyd, gafaelwch ynddo a dwy law a gwnewch y mwyaf o'r sefyllfa. Cyflwynwyd y gn yma gan Den a Mary i'w mab annwyl Gavin ac i'r holl ofalwyr a ffrindiau sydd yn rhoi cymaint o ysbrydiolaeth iddo.

Whatever life throws at you, grab it with both hands. Dedicated by Den and Mary to their dear son Gavin and all carers for their inspiration.


7 - Dewch I Ddawnsio (3.37)
Dennis Carr/Mary Lynn Carr © Madryn Cyf.

Troiodd y band y gân yma am ddawnsio gan Den a Mary yn gân "swamp" heintus. Rhowch eich 'sgidiau dawnsio ymlaen!

A band collaboration turned Den and Mary's song about the joys (or otherwise) of dancing into a swamp thing. Get your dancing boots on!


8 - La Danse de Mardi Gras (3.03)
Tradd. trefn./Trad. arr. Cajuns Denbo © Madryn Cyf.

Cân draddodiadol Cajun sydd yn ganrifoedd o oed ac yn debygol yn wreiddiol wedi dod o Ffrainc. Dathliad o'r Mardi Gras gwledig yw'r gân pan fydd marchogwyr aflafar yn ymweld a ffermydd lleol i ofyn am ffowlyn neu rhyw gyfraniad arall i'r Gumbo. Mae'r gantores ac acordionyddes amlieithog Frances Smith yn canu harmoni.
Frances Smith: llais

A traditional Cajun song that dates back hundreds of years and probably has its roots in France. It's a celebration of the rural Louisiana Mardi Gras when raucous riders visit the local farms on horseback asking for ingredients for a celebratory gumbo. Vocalist, accordionist and multilinguist Frances Smith provides harmony vocals.
Frances Smith: vocals


9 - Y Mynydd [The Mountain] (4.41)
Steve Earle © South Nashville Music/W B Music Group (ASCAP) Welsh Lyrics/Geiriau Cymraeg: Huw Roberts

Cân wreiddiol gan Steve Earle yn sôn am y pyllau glo yn fynyddoedd Kentucky. Mae y geiriau cryf wedi ei haddasu i sefyllfa y chwarelwyr yma yng Ngogledd Cymru. Mae Jock Tyldesley o'r band The Flatville Aces yn chwarae'r ffidil.
Jock Tyldesley: ffidil

Steve Earle's moving song about coal mining in the Kentucky mountains. Here, the powerful lyrics apply equally well to the slate quarrymen of North Wales. Jock Tyldesley from The Flatville Aces plays fiddle.
Jock Tyldesley: fiddle


10 - Wrth fynd hefo Deio i Dywyn (2.31)
Tradd. trefn./Trad. arr. Cajuns Denbo © Madryn Cyf.

Cân draddodiadol Gymraeg llawn hwyl am ddiwrnod allan bythgofiadwy. Clywir yr hen offeryn Cymreig, y pibgorn, yn cael ei chwarae gan Andy Mclauchlin o'r band gwerin Crasdant. Ai hwn yw'r cyfuniad cyntaf o'r accordion Cajun a'r pibgorn?
Andy McLauchlin: pibgorn

A humorous Welsh traditional song about an eventful day out. Andy Mclauchlin from folk band Crasdant helps out on pibgorn, an early Welsh instrument. Is this the first recording ever to feature Cajun accordion and pibgorn?
Andy McLauchlin: pibgorn


11 - O Mam (3.05)
Carlton Frank © Swaza Music BMI Geiriau Cymraeg/Welsh lyrics: Mary Lynn Carr

Daethom ar draws y gân yma yn cael ei chwarae gan Steve Riley a'r Mamou Playboys pan yr oeddym yn ymddangos gyda nhw yng Ngwyl Lorient yn Llydaw yn 2003. Ysgrifenwyd y gân yn wreiddiol gan y ffidlwr Creole Carlton Frank. Mae'r rhythm cryf sy'n cael ei sefydlu gan y ffidil a'r acordion yn ei gwneud yn anodd iawn eistedd yn llonydd i hon.

We first came across this played by Steve Riley and the Mamou Playboys when we were on the same bill at the Lorient Festival in Brittany. Originally written by Creole fiddler Carlton Frank, its infectious fiddle/accordion-driven groove ensures that no one sits this one out.


12 - Pete's Eats (3.45)
Dennis Carr/Mary Lynn Carr/Owen Hughes © Madryn Cyf.

Cân o ganmoliaeth gan Den a Mary i'r caffi enwog i ddringwyr yn eu pentref, Llanberis. Y lle gorau am frechdan sglodion a peint o de! Ai hwn ydi'r caffi gorau yn y byd?

A hymn of praise by Den to the celebrated climbers' caff in his home village of Llanberis. Chip butties and pint mugs of tea! The best caff in the world? An institution, certainly!


13 - Paid â Difaru (5.29)
Dennis Carr/Mary Lyn Carr/Pete Walton © Madryn Cyf.

Mae 'na ddigon o le i gân serch ar unrhyw albwm.

What's an album without a love song?


14 - Tan y Lleuad (3.32)
Cerddoriaeth/music: Neil Browning Geiriau/lyrics: Neil Browning/Owen Hughes © Madryn Cyf.

Cymerodd Neil bedair blynedd i orffen y gân yma yn sôn am berthynas yn chwalu. Diolch byth fod dyddiad cwbwlhau y CD wedi ei ysbrydoli...

It took Neil about four years to get around to finishing this song about a relationship breaking up (aren't album deadlines useful!).


15 - It's your Voodoo Working (5.36)
Charles Sheffield © Campbell Connelly & Co. Ltd.

'Roedd y gân yma yn "hit" yn y 50au pan gafodd ei rhyddhau gan Charles "Mad Dog" Sheffield, canwr R'n'B o Louisiana. Blynyddoedd wedyn 'roedd yn boblogaidd iawn yn y clwbiau Northern Soul. Recordwyd hon yn 'fyw' yn y stiwdio heblaw am Pete yn ychwanegu ychydig o'i "Gîtar Voodoo" wedyn.

This was a hit in the 50s for Louisiana R'n'B singer, Charles 'Mad Dog' Sheffield. Later, it was a dance floor hit in the Northern Soul clubs. This was recorded 'live' in the studio, except for Pete who added some "Voodoo Guitar" later. You can't keep a good song down!